Ganwyd ym mhlwyf Llanrhystyd, Sir Aberteifi, o bosibl yn Rhyd-las, yn fab i David a Mary Evans (?). Addysgwyd ef yn ysgol Ystrad Meurig, a bu'n gurad Llanddeiniol yn yr un sir o 23 Medi 1804 hyd 22 Medi 1805 pan gafodd ficeriaeth Breideth a Chaslai yn Sir Benfro. Ar 4 Awst 1807 derbyniodd ficeriaeth Llangunllo, sir Faesyfed, ac o 15 Mehefin 1825 ymlaen daliai fywiolaethau Llanddewi'r Cwm a Llanfair ym Muallt yn ogystal. Bu farw yn Llanfair ym Muellt ddechrau 1843. Bu farw yn Llanfair ym Muallt.
Ef ydoedd awdur An Elegy on the Death of the Rev. John Jenkins, M.A., late vicar of Kerry (Ludlow, 1830), a The Cambrian Muse habited in English Costume (Llandovery, 1840). Iddo ef hefyd y priodolir Awen-Gerdd Debygawl a Dynwaredawl, ar destun-ymadrodd Teetotalaidd … (Llanymddyvri, 1839).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/