Ganwyd 20 Chwefror 1864, mab capten Henry Evans, Caernarfon. Enillodd ysgoloriaeth yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, a graddio yn B.A. yno yn 1898. Wedi ei ordeinio yn 1898 aeth i Connah's Quay, Sir y Fflint, yn gurad, eithr ymddiswyddodd y flwyddyn ddilynol wedi iddo gael ei ddewis yn arolygwr ysgolion yr Eglwys yn esgobaeth Bangor - a dyna gychwyn gyrfa gŵr a ddaeth gyda'r mwyaf ei ddylanwad yn yr esgobaeth honno. Yn 1909 cafodd fywoliaeth Llanfaethlu gyda Llanfwrog, sir Fôn. Daeth yn ddeon gwlad Talybolion yn 1918 eithr gadawodd y swydd honno yn 1921 pan wnaethpwyd ef yn archddiacon Bangor. Yr oedd yn gweithio yn yr esgobaeth yr union adeg pryd yr oedd y mudiad i ddatgysylltu a dadwaddoli'r Eglwys yng Nghymru yn ei anterth; yn y mudiad hwn bu iddo ran flaenllaw yn y gwaith o amddiffyn yr Eglwys; yn 1906, e.e., bu'n brysur yn dwyn ynghyd ffigurau ac ystadegau ynglŷn â'r esgobaeth i'w cyflwyno i Gomisiwn y Llywodraeth ar yr Eglwys. Pan gafwyd Datgysylltiad a Dadwaddoliad bu Evans yr un mor brysur yn ceisio trefnu i'r newid mawr yn hanes yr Eglwys fod mor esmwyth ag a oedd yn bosibl. O 1901 hyd 1915 bu'n golygu cyfrolau blynyddol y Bangor Diocesan Calendar, cyhoeddiad a oedd yn nodedig am werth y wybodaeth a geid ynddo. Yr oedd ganddo dros 4,000 o gyfrolau yn ei lyfrgell bersonol a llawer o argraffiadau o'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn eu plith. Yr oedd yn ŵr o bersonoliaeth gref ac yn bregethwr dawnus yr oedd galw mawr amdano trwy Gymru. Bu farw 22 Medi 1937.
Ysgrifennodd lawer o lyfrau, esboniadau ar gyfer ysgolion Sul, ac erthyglau - yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ei waith pennaf ydoedd A Chapter in the History of the Welsh Book of Common Prayer, 3 cyfrol, 1922; gwaith gwerthfawr arall oedd Minutes and Proceedings of an old Tract Society of Bangor Diocese, 1804-12. Heblaw pregethau a'i siarsiau fel archddiacon cyhoeddodd A few Episcopal Visitation Queries, 1937, Memorandum on the Legality of the Welsh Bible and Prayer Book, ac erthyglau (yng nghyhoeddiadau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, y Welsh Outlook, Journal of the Welsh Bibliographical Society, etc.), ar destunau megis ' Life and Work of Edmund Prys,' ' Three Old Foundations,' ' Bishop Nicholas Robinson,' ' Thomas a Kempis and Wales,' a ' Some Welsh Agricultural Writers.' Cedwir swm helaeth o'i lawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.