EVANS, JOHN RHAIADORE (1790? - 1850?), llawfeddyg

Enw: John Rhaiadore Evans
Dyddiad geni: 1790?
Dyddiad marw: 1850?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Elwyn Evans

Ganwyd yn Glantanat Isaf, Llanrhaiadr-ym-Mochnant, ac fe'i addysgwyd yn ysgol ramadeg Croesoswallt. Bu'n cael hyfforddiant gan Hugh Roberts, llawfeddyg yn Llanfyllin, ac yna aeth yn ddisgybl i Syr Benjamin Brodie. Daeth yn brif swyddog meddygol ysbyty Bangor, ac wedi hynny yn ddarlithydd mewn llawfeddygaeth ac yn un o swyddogion meddygol ysbyty Middlesex a'r Royal Metropolitan Infirmary. Bu'n dilyn ei swydd yn Llundain am beth amser. Ysgrifennodd nifer o draethodau meddygol, e.e., On the Remedial Evils attending the Life of the People; On Irritation of the Spinal Nerves; The remediable Influence of Oxygen on Vital Air.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.