Ganwyd yn 1859, mab Richard Evans, amaethwr, Pant-y-garn, Rhiwabon, sir Ddinbych. Wedi bod yn ysgol Brookside, Wrecsam, bu yn cynorthwyo gyda darllen proflenni yn swyddfa Hughes a'i Fab, Wrecsam, ac oddi yno, yn 1878, ymunodd â staff Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon. Yn 1880 ymunodd â staff y Sheffield Independent; yn 1883 penodwyd ef yn ysgrifennydd cyfrinachol i Syr Edgar Vincent (arglwydd D'Abernon), a oedd ar y pryd yn gyfarwyddwr ariannol i Lywodraeth yr Aifft. Yn 1887 penodwyd ef yn bennaeth gwasanaeth Gwylwyr y Glannau yn yr Aifft, ac yn 1890 yn arolygydd cyffredinol yr Ottoman Bank. Yn 1897 aeth i Johannesburg, fel cynrychiolydd Syr Edgar Vincent; yn 1898 aeth i bartneriaeth gydag Eckstein a'i Gwmni. Ymneilltuodd yn 1902 pan benodwyd ef yn gadeirydd a chyfarwyddwr y Crown Mine. Bu ar staff yr arglwydd Roberts yn ystod rhyfel Deheudir Affrica, ac yn ddirprwywr gwladol Johannesburg wedi i'r fyddin Brydeinig feddiannu'r dref honno. Gweithiodd i wella amodau byw a chyflwr y gweithwyr brodorol yn y mwyngloddiau, ac yr oedd yn un o sefydlwyr Prifysgol Witwatersrand. Ysgrifennodd ar ei brofiadau yn y Dwyrain i'r Llenor (O.M.E.). Yr oedd yn bennaeth yn Urdd Mejidieh ac yn Urdd Osmanieh; cafodd radd Ll.D. ('er anrhydedd') gan Brifysgol Cymru (1930) a Phrifysgol Witwatersrand. Yn 1903 priododd Katherine Manson, a bu ganddynt un mab a dwy ferch.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.