brodor o Lanarth, Sir Aberteifi. Aeth yn ieuanc i Lundain a sefydlodd yno fusnes ystordy llewyrchus yn Old Change. Yn y pum degau o'r ganrif ddiwethaf dechreuodd gydweithio â Syr Hugh Owen yn ei frwydr dros addysg yng Nghymru a bu'n gefnogydd brwd i'r Coleg yn Aberystwyth. Yr oedd yn eisteddfodwr eiddgar ac yn noddwr hael i gerddorion a chyfansoddwyr Cymreig. Bu'n un o aelodau amlycaf pwyllgor Llundain pan ymwelodd ' Côr Mawr Caradog ' â'r ddinas yn 1873, a phan ailffurfiwyd Cymdeithas y Cymmrodorion yn y flwyddyn honno yn y Freemasons Tavern, fel canlyniad i'r brwdfrydedd a enynnwyd gan lwyddiant y côr, etholwyd ef yn gadeirydd y cyngor, a llanwodd y swydd hyd ei farw. Bu farw 21 Awst 1905 yn ei dŷ yn Brockley, a'i gladdu yn Chislehurst. Bu'n briod, a chafodd ddwy ferch.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.