EVANS, TIM (1877 - 1939), arlunydd

Enw: Tim Evans
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1939
Rhiant: Timothy Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd yn Llanbedr y Cennin, Nant Conwy, 1877, mab Timothy Evans. Bu yn ysgol elfennol Talybont ac yn Ysgol Gelfyddyd Lerpwl. Bu yn astudio ei gelfyddyd dan Syr H. von Herkomer yn Bushey, sir Hertford. Wedi hynny bu yn byw ar y Cyfandir am rai blynyddoedd, yn enwedig yn Holland. Wedi dychwelyd i'r wlad hon bu yn byw yn Llundain, ac yno y bu farw 18 Tachwedd 1939. Claddwyd ef ym mynwent Plumstead. Bu yn briod ddwywaith. Gwelir ei waith gorau yn ei ddarluniau dyfrlliw o olygfeydd, yn arbennig golygfeydd yng Nghymru, ond paentiodd gryn nifer o ddarluniau o bobl hefyd. Yr oedd yn gerddor ac yn gantwr da.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.