EVANS, WILLIAM (1779 - 1854), gweinidog Wesleaidd

Enw: William Evans
Dyddiad geni: 1779
Dyddiad marw: 1854
Plentyn: Adam Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd 25 Hydref 1779 yng Nghaernarfon. Bu ei dad farw cyn ei eni, a gofalwyd am addysg iddo ym Miwmares gan deulu ei fam (merch Pant Hywel, Llandegfan). Bu'n eillydd yn Amlwch a Chaernarfon, ac aeth i'r weinidogaeth yn 1806, a theithiodd ar gylchdeithiau Caerdydd (1806), Llangollen (1807), Llanrwst (1809), Pwllheli (1810), Holywell (1812), Biwmares (1814), Rhuthun (1816), Llanfyllin (1818), Machynlleth (1821), Llanfaircaereinion (1824), Pwllheli (1826), Dolgellau (1828), Caernarfon (1831 — blwyddyn helynt ‘y Wesle bach’), Llandysul (1832), Crughywel (1835), Abertawy (1837), Merthyr (1840), a Machynlleth (1843). Ymneilltuodd yn 1844, ac ymsefydlu ym Machynlleth, lle y bu farw 30 Gorffennaf 1854. Mab iddo oedd ADAM EVANS, argraffydd a chyhoeddwr, Machynlleth. Bu'n ysgrifennydd ei dalaith (1812-24, 1827-32) ac yn olygydd yr Eurgrawn Wesleyaidd (1824-5). Ysgrifennodd Hanes Bywyd a Marwolaeth y Parch. E. Jones, Bathafarn, 1850, a llyfrau ‘dadleugar' — Ymddiffynydd y Gwir, 1822; Traethawd yn erbyn yr Athrawiaeth o Barhad Diamodol mewn Gras, 1839; Amddiffyniad i Ddysgyblaeth y Methodistiaid Wesleyaidd (1850), ac eraill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/