EVANS, WILLIAM (1823 - 1900), ficer Rhymni a chanon mygedol yn eglwys gadeiriol Llandaf

Enw: William Evans
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1900
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ficer Rhymni a chanon mygedol yn eglwys gadeiriol Llandaf
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John James Jones

brodor o Langeler, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle'r oedd yn ysgolor blaenaf ('senior scholar') ac enillwr y wobr am yr Hebraeg a diwinyddiaeth. Ordeiniwyd ef yn 1848 i guradiaeth S. Mair, Aberteifi. Bu'n gurad Gelligaer, 1850-3, a Throed-yr-aur, 1854-6. Penodwyd ef yn ficer Rhymni yn 1856, ac arhosodd yno hyd ei farw. Yr oedd yn un o glerigwyr blaenaf esgobaeth Llandaf, ac anrhydeddwyd ef â'r swyddi canlynol: prebend dirprwyol S. Cross neu Henry Morgan yn eglwys gadeiriol Llandaf, 1878; caplan cartrefol esgob Llandaf, 1883; a proctor i ddeon a chabidwl Llandaf, 1886. Bu'n gyd-olygydd Y Cyfaill Eglwysig o 1864 hyd 1866 pan ddaeth yn unig olygydd. Parhaodd i olygu'r misolyn hwn hyd 1893, pan ymddiswyddodd oherwydd afiechyd. Bu farw 8 Awst 1900.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.