Ganwyd yn Llangyfelach, 6 Ionawr 1827 (neu 1828), yn fab i William a Catherine (ganwyd Howell) Evans. Cyfeirir ato weithiau fel Evander William Evans. Aeth gyda'i rieni yn 1833 i Bradford County, Pennsylvania, U.D.A. Graddiodd yn Yale yn 1851, a bu'n diwtor yno, 1855-7. Bu'n astudio diwinyddiaeth yn New Haven ar ôl graddio a bu'n brifathro y Delaware Institute, Franklin, Efrog Newydd, am flwyddyn. O 1857 hyd 1864 yr oedd yn athro anianeg a seryddiaeth yn Marietta College, Ohio. Gadawodd Marietta College yn 1864 er mwyn ei iechyd ac er mwyn gwella ei amgylchiadau. Ar ôl hynny ymddengys iddo fod yn beiriannydd mewn mwyngloddiau, a bu'n llwyddiannus iawn yn y diwydiant olew yn West Virginia. Pan sefydlwyd Prifysgol Cornell, efe oedd ei hathro cyntaf mewn mathemateg, 1868-72.
Teimlai hefyd ddiddordeb mawr mewn efrydiau Cymreig; cyfrannai bapurau ar faterion Cymreig i'r American Philological Society, a gadawodd ar ei ôl waith anorffenedig ar hanes Cymru. Bu farw 22 Mai 1874 yn Ithaca, N.Y.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.