Ganwyd yn Melincrug gerllaw pentref Llanafan, Sir Aberteifi. Bu'n goedwigwr ar ystad ieirll Lisburne yn ardal ei febyd a byw am gyfnod yn Maenarthur Cottage yn ymyl pentref Ysbyty Ystwyth. Yn y cyfnod hwn bu'n ddyfal fel cyfansoddwr, yn arweinydd côr Llanafan, ac yn cystadlu'n fynych mewn eisteddfodau a gynhelid yng Nghymru ac U.D.A. Symudodd o Sir Aberteifi i Sir Forgannwg a threuliodd weddill ei oes yn Nhreorci. Ceir esiamplau o emyn-donau, anthemau, a rhanganau o'i waith yn y MSS. a nodir isod; gweler hefyd Llawlyfr Moliant. Bu farw 16 Mehefin 1900 yn Nhreorci, a chladdwyd ef yn Ysbyty Ystwyth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/