FOULKES, PETER (1676 - 1747), ysgolhaig a chlerigwr

Enw: Peter Foulkes
Dyddiad geni: 1676
Dyddiad marw: 1747
Priod: Anne Foulkes (née Holwell)
Priod: Elizabeth Foulkes (née Bidgood)
Rhiant: Jane Foulkes (née Ameredith)
Rhiant: Robert Foulkes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig a chlerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

trydydd mab Robert Foulkes o Lechryd, sir Ddinbych, a Jane Ameredith o Landulph, Cernyw. Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster a Christ Church, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. 1698, M.A. 1701, D.D. 1710. Apwyntiwyd ef yn ganon Exeter 1704, is-ddeon 1723, canghellor Mai 1724, cantor 1731. Gwnaed ef yn ganon Christ Church Tachwedd 1724, a bu'n is-ddeon 1725-33. Cafodd fywoliaeth Cheriton Bishop yn Nyfnaint, 1714, a Thorverton, 1716. Bu ei wraig gyntaf, Elizabeth Bidgood o Rockbeare, Dyfnaint, a briododd yn 1707, farw yn 1737. Yn Rhagfyr 1738 priododd Anne Holwell, gweddw, merch i esgob Blackall o Exeter.

Tra yn efrydydd, cyhoeddodd, gyda chymorth John Freind, argraffiad o Aeschines against Ctesiphon and Demosthenes on the Crown (Rhydychen, 1696). Ymddangosodd barddoniaeth Ladin o'i waith yn 1695, 1699, 1727, a hefyd bregeth - A Sermon preached in the Cathedral Church of Exeter on January 30, 1723. Bu farw 30 Ebrill 1747, a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Exeter.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.