Ganwyd 2 Ionawr 1815 yn Stanstead Bury, Herts, ail fab John Powell a Caroline Mary Foulkes. Addysgwyd ef yn Ysgol y Brenin, Caer, yn Amwythig, a Choleg Balliol, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. 1837, M.A. 1840. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ym Mehefin 1839 gyda theitl i guradiaeth Halkin, Sir y Fflint, ac yng Ngorffennaf o'r flwyddyn fe'i ordeiniwyd yn offeiriad. Rhoddwyd bywoliaeth Llandyssil, Sir Drefaldwyn, iddo yn 1857, a gwnaed ef yn archddiacon Trefaldwyn yn 1861, swydd a oedd ynghlwm wrth ganonaeth yn yr eglwys gadeiriol. Cafodd fywoliaeth Whittington, Sir Amwythig, yn 1879, a bu yno hyd ei farw. Priododd Jane Margaret, merch Edward Lloyd, Rhaggatt, a bu iddynt un ferch a fu farw yn 14 oed.
Yr oedd yn awdur sawl llawlyfr at waith yr ysgol Sul. Yng nghynghrair yr Eglwys yn Leeds, 1872, darllenodd bapur ar hanes yr Eglwys yng Nghymru. Bu farw 26 Ionawr 1886, a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Llanelwy.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/