Ganwyd y brodyr ym Mryn-y-Wern, Cwm Pennant, Sir Gaernarfon - Griffith ym mis Rhagfyr 1876, ac Owen ar 15 Mehefin 1879, meibion William a Mary Francis. Yr oedd y tad yn gerddor da, a swyddog yn chwarel y Moelfre, a'u mam - 'Mair Alaw' - yn gantores o Nantlle. Chwarelwyr oedd y brodyr, a'r ddau yn gantorion rhagorol.
Bardd hefyd oedd Griffith, yn y mesurau caeth a rhydd. Cyhoeddodd lyfr o'i farddoniaeth, Telyn Eryri, yn cynnwys caneuon am fywyd chwarelwr a thyddynnwr yn nhermau'r werin. Casglodd lyfr arall, ond ni chyhoeddwyd mohono.
Cerddor oedd Owen, a chyfansoddodd rai caneuon.
Ceir llawer o emynau, caneuon, ac englynion o waith y brodyr yn Y Genedl a chylchgronau eu cyfnod. Yn nyddiau cynnar darlledu, cymerasant ran yn y cyngerdd Cymraeg cyntaf a ddarlledwyd o Ddulyn, a chynaliasant gannoedd o gyngherddau a fu o wasanaeth i'r bywyd Cymreig. Canodd y ddau frawd gyda'i gilydd ar hyd eu hoes, a buont farw yr un flwyddyn - Owen, 6 Ebrill 1936 (claddwyd ef ym mynwent capel Salem, Llanllyfni), a Griffith 15 Mehefin 1936 (claddwyd ym mynwent Macpela, Penygroes).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.