FRANCIS, JOHN (1789 - 1843), melinydd a cherddor

Enw: John Francis
Dyddiad geni: 1789
Dyddiad marw: 1843
Rhiant: Margaret Francis
Rhiant: William Francis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: melinydd a cherddor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 20 Mawrth 1789, mab William a Margaret Francis, Melin Rhyd-hir, Pwllheli, Sir Gaernarfon. Hoffai gerddoriaeth yn fachgen, dysgodd elfennau cerddoriaeth a chynghanedd, a daeth i allu cyfansoddi yn lled ieuanc. Nid oes ond tair tôn ar gael o'i waith. Yn Seren Gomer, Tachwedd 1821, ceir tôn o'r enw ' Mwyneidddra,' ac un arall dan yr enw ' Gomer,' ac, ym Mawrth 1823, y dôn ' Pwllheli ' - ei henw cyntaf oedd ' Morwydden.' Cyfansoddodd anthem ar Salm xxxix a fu'n boblogaidd yn Llŷn ac Eifionydd. Arferai gadw ei lyfrau canu mewn cist fechan yn y felin, ond torrodd lleidr i mewn un noswaith, gan ddwyn ei holl gyfansoddiadau. Bu'n arweinydd y canu yng nghapel Penlan (Annibynnol), Pwllheli, am lawer o flynyddoedd. Bu farw 19 Awst 1843, a chladdwyd ef ym mynwent Penlan, Pwllheli.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.