Mab Benjamin Gibbon, ficer Penally, Sir Benfro, a Jane ei wraig; ganwyd yn 1802. Addysgwyd ef mewn ysgol arbennig ar gyfer plant amddifad clerigwyr, ac yna dysgodd y gelfyddyd o lin-ysgythru gyda Edward Scriven a J. H. Robinson. Ysgythrodd amryw o ddarluniau o waith Edwin Landseer ac ymysg yr ychydig bortreadau a ysgythrwyd ganddo y mae un o'r frenhines Victoria gan William Fowler. Er ceined ei waith, nid oes llawer o alw amdano erbyn hyn. Bu farw yn Llundain 28 Gorffennaf 1851.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/