GIBBINS, FREDERICK WILLIAM (1861 - 1937), Crynwr a meistr gwaith platiau haearn ('tinplate')

Enw: Frederick William Gibbins
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1937
Priod: Sarah Jennette Gibbins (née Rhys)
Rhiant: Caroline Gibbins
Rhiant: Frederick Joseph Gibbins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Crynwr a meistr gwaith platiau haearn ('tinplate')
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd
Awdur: Thomas Mardy Rees

Ganwyd yng Nghastell Nedd, 1 Ebrill 1861, mab hynaf Frederick Joseph Gibbins a Caroline ei wraig, Crynwyr blaenllaw. Cafodd ei addysg yn ysgol y Crynwyr, Scarborough. Priododd, 1898, Sarah Jennette Rhys, Sgubor Fawr, Penderyn, sir Frycheiniog, a bu iddynt ddau fab.

Yr oedd F. W. Gibbins yn flaenllaw ym mywyd masnachol Deheudir Cymru, yn enwedig yn y diwydiant platiau haearn ('tinplate'). Aeth i'r diwydiant hwn yn 1880; yn 1884 yr oedd yn arolygwr cynorthwyol yng ngwaith Ynyspenllwch. Yn 1890 adeiladodd yr Eagle Tinplate Works, Melin, Castell Nedd. Yr oedd yn un o'r meistri gwaith cyntaf i ddarparu tŷ bwyta modern ('canteen'), llyfrgell, caeau chwarae, etc., i'r gweithwyr. Daeth hefyd yn flaenllaw ac yn boblogaidd fel cymedrolwr pan oedd anghyd-ddealltwriaeth rhwng gweithwyr a meistri. Yr oedd yn un o sylfaenwyr y ' Welsh Plate and Sheet Manufacturers Association ' a bu'n gadeirydd y gymdeithas honno o 1910 hyd 1922. Yr oedd yn ustus heddwch yn Sir Forgannwg, a bu'n siryf iddi, 1908-9. Câi achosion dyngarol bob cymorth ganddo; bu'n is-lywydd y ' Welsh National Memorial Association ' (i ymladd yn erbyn y darfodedigaeth). Gwerthodd yr Eagle Tinplate Works i gwmni Baldwins yn 1922, ac aeth i fyw i Cwm Irfon Lodge, Llanwrtyd, ac oddi yno i Glynsaer, lle y bu farw ar 30 Gorffennaf 1937. Claddwyd ef yn Cynghordy, gerllaw Llanymddyfri.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.