Ganwyd 14 Chwefror 1841, mab i hetiwr o Lancaster. Oddeutu 1863 ymunodd ag Advertiser Croesoswallt fel argraffydd, ac yna dechreuodd ysgrifennu i'r papur hwnnw. Ar ôl ennill ohono brofiad fel newyddiadurwr yn siroedd Cymru a'r gororau, fe'i gwahoddwyd, ym Medi 1873, i drefnu a golygu 'r Cambrian News yn Aberystwyth. Trwy gymorth ariannol ffrindiau daeth y newyddiadur yn eiddo iddo yn 1880. Dan ei oruchwyliaeth, ei bersonoliaeth rymus, a'i syniadau annibynnol diofn ar faterion lleol a chenedlaethol, datblygodd y Cambrian News yn un o'r newyddiaduron wythnosol mwyaf dylanwadol yng Nghymru. Efe oedd awdur Agriculture in Wales, 1879, ac Emancipation of Women. Fe'i hurddwyd yn farchog yn 1915, a bu farw 16 Gorffennaf yr un flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.