GILBERTSON, LEWIS (1814 - 1896), clerigwr ac is-brifathro Coleg Iesu, Rhydychen

Enw: Lewis Gilbertson
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1896
Rhiant: Elizabeth Gilbertson
Rhiant: William Cobb Gilbertson
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac is-brifathro Coleg Iesu, Rhydychen
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd yn Dôlclettwr, Tre'r-ddôl ar 27 Tachwedd 1814, yn bedwerydd mab i William Cobb Gilbertson (1768-1864), gŵr y gyfraith yn enedigol o Middlesex, a'i drydedd wraig, Elizabeth, ac fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Llancynfelyn ar 3 Rhagfyr. Treuliodd ei ieuenctid yn Elerch, Sir Aberteifi. Addysgwyd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, graddiodd yn B.A. 1836, M.A. 1839, B.D. 1847, ac yr oedd yn gymrawd o Goleg Iesu, 1840-72. Ordeiniwyd ef yn ddiacon, 1837, gan esgob Caerloyw a Bryste, a chafodd guradiaeth Sheringham ger Cheltenham. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1838 yn yr un esgobaeth. O 1841 hyd 1852 bu'n ficer Llangorwen, Sir Aberteifi, lle daeth yn adnabyddus am ei gysylltiad â Mudiad Rhydychen. Yn 1852 dychwelodd i Goleg Iesu, ac ar ôl gwasnaethu fel is-drysorydd a darlithydd, daeth yn is-brifathro, 1855-72. Gwnaed ef yn ficer plwyf newydd Elerch, Ebrill 1869, ond, fel noddwr, apwyntiodd ei olynydd, Tachwedd 1870. Yn y flwyddyn honno gwnaed ef yn rheithor Braunston ger Rugby, a bu yno hyd ei ymneilltuo yn 1893. Ymneilltuodd i Aberystwyth. Bu farw 2 Ebrill 1896.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.