a fu hefyd yn weinidog yng nghyfundeb yr arglwyddes Huntingdon. Mab Thomas Glascott, Caerdydd, ydoedd, a bu Charles Wesley (ac efallai John Wesley a Whitfield) yn lletya yn ei gartref - 'I lodged at Mr. Glascott's' (Charles Wesley, Journal, i, 255, 6 Tachwedd 1740). Yn y ddadl Galfinaidd (1740-1) bwriodd seiat Caerdydd ei choelbren gyda Wesley. Aeth Cradock i Goleg Iesu, Rhydychen (Foster, Alumni), graddiodd, ac ordeiniwyd ef yn Eglwys Crist, Rhydychen, yn 1765. Derbyniodd guradiaeth Cleverly, Berkshire. Gohebai yn gyson â Wesley ar y dechrau. Troes yn Galfin eithafol, bu ffrwgwd, a chollodd ei guradiaeth. Croesawyd ef gan yr arglwyddes Huntingdon, a daeth yn un o golofnau ei chyfundeb am oddeutu 14 mlynedd. Agorwyd ganddo rai o'i phrif gapelau, a safai yn rheng flaenaf ei phregethwr. Er loes iddi torrodd ei gysylltiad swyddogol â'i chyfundeb yn 1781 (gweler llythyrau'r arglwyddes ato, 25 Rhagfyr 1781 a 11 Ionawr 1782). Penodwyd ef yn ficer Hatherleigh, Dyfnaint, 1781, ac yno y bu hyd ei farwolaeth ar 11 Awst 1831. Siomwyd Wesley o'i golli o fysg ei ddilynwyr, a mwy fyth fu siom yr arglwyddes Huntingdon. Er hynny, ni pheidiodd ei sêl efengylaidd â llosgi i'r diwedd eithaf.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.