Ganwyd 1504, mab John Glyn, Heneglwys, sir Fôn. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Queens', Caergrawnt (B.A. 1527, M.A. 1530, B.D. 1538, D.D. 1554), daeth yn gymrawd ei goleg yn 1530, yn un o gymrodyr gwreiddiol Coleg y Drindod, ac yn is-feistr y coleg hwnnw, 1546-51. Fel ei gyfaill a'i gyfoed Thomas Thirlby (gw D.N.B.), ymddengys iddo dderbyn cyfnewidiadau crefyddol teyrnasiad Harri VIII, serch iddo, yn ei galon, barhau yn Babydd, a dewiswyd ef i gadair ddiwinyddiaeth Lady Margaret yn 1544. Nid oedd yn hoffi o gwbl Brotestaniaeth eithafol teyrnasiad Edward VI ac yr oedd yn un o'r dadleuwyr a oedd yn amddiffyn traws-sylweddiad gerbron Comisiwn Brenhinol Mehefin 1549; ymddiswyddodd o'i gadair athro yr un mis. Cydymffurfiodd yn ddiweddarach, a sefydlwyd ef yn rheithor S. Martin's, Ludgate, 1550, a Heneglwys, sir Fôn, 1552. Pan esgynnodd Mari i'r orsedd (1553) sefydlwyd ef ym mywiolaethau Cilrhedyn a Llanbedr Efelffre yn esgobaeth Tyddewi. Etholwyd ef yn llywydd Coleg Queens', Rhagfyr 1553, ac yr oedd yn un o'r cynrychiolwyr a ddanfonwyd i Rydychen i ddadlau â Latimer a Ridley yn Ebrill 1554. Etholwyd ef yn is-ganghellor yn 1554. Yn 1555 aeth i Rufain gyda Thirlby ac eraill ar neges ddiplomatig. Cafodd ei ddewis yn esgob Bangor yn 1555, a bu'n ddiwyd yn cynnull ei glerigwyr i synodau rheolaidd a gofalu bod athrawiaethau Pabyddol yn cael eu derbyn ynddynt. Nid oes tystiolaeth bod erledigaeth yn ei esgobaeth, ac y mae'n bosibl ei fod yn goddef clerigwyr priod am fod ei dad a'i daid ef ei hun yn offeiriaid. Yr oedd ganddo ef ei hun fab - sef Gruffydd Glyn, Pwllheli, siryf sir Gaernarfon, 1563-4. Bu'r esgob farw ar 21 Mai 1558. Yr oedd ei hanner-brawd JOHN GLYN (a oedd yn hŷn nag ef) yn ddeon Bangor, 1505?-34; ei frawd GEOFFREY GLYN (bu farw 1557) a sefydlodd Ysgol Friars, Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.