GOWER, HENRY (1278? - 1347), esgob Tyddewi

Enw: Henry Gower
Dyddiad geni: 1278?
Dyddiad marw: 1347
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Tyddewi
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Yn ôl un ffynhonnell, ganwyd ef yn sir Efrog; ond y mae ei gyfenw, ei feddiannau ym Mroŵyr, a'i ddiddordeb amlwg yn nhref Abertawe, yn cryfhau'r farn gyffredin mai ym Mroŵyr yr oedd ei wreiddiau. Yr oedd yn ddoethur yn y ddwy gyfraith yn Rhydychen, yn gymrawd yng Ngholeg Merton (yr hynaf o'r colegau), ac am ysbaid yn ganghellor y brifysgol. Tua 1314, yr oedd yn ganon yn Nhyddewi; tua 1319 yn archddiacon yno; ac ar 21 Ebrill 1328 (meddai Yardley) etholwyd ef yn esgob, a'i gysegru ar 12 Mehefin - Yardley hefyd sy'n dweud ei fod ar y pryd yn 50 oed. Y mae awgrym go gryf ei fod ym mhlaid Mortimer a'r frenhines Isabel; ond gwnaeth ei heddwch ag Edward III, a bu unwaith neu ddwy yn gennad drosto ar y Cyfandir, heblaw llenwi swyddi achlysurol yn Lloegr. Ond yn Nhyddewi ei hunan y bwriodd Gower y rhan helaethaf o lawer o'i fywyd fel esgob. Bu farw yno yn 1347 (ar 1 Mai, meddai Yardley), a chladdwyd ar ochr ddeheuol y côr. Ei haelioni a'i ysblander fel adeiladydd yw ei glod pennaf; dywed E. A. Freeman iddo adael mwy o'i ôl ar Dyddewi yn hynny o beth na neb un arall. Helaethodd 'gapel Mair' y brifeglwys, a chwanegu siantri ato; efo biau'r groglofft odidog o faen; cododd uchder muriau'r eglwys a helaethodd ei ffenestri. Muriodd y clas o amgylch yr eglwys, a chododd ynddo'r plasty mawr a gwych y saif ei furiau cedyrn hyd heddiw. Symudodd 'goleg' yr esgob Beck o Dyddewi i Abergwili; atgyweiriodd gryn nifer o faenordai esgob Tyddewi yn Nyfed, a thair o leiaf o eglwysi'r fro. Sefydlodd ysbyty yn Abertawe; cododd gangell hardd eglwys Fair yno; a chwanegodd at uchder tŵr castell y dref.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.