GRIFFITH, RICHARD DAVIES (1813 - 1856), cenhadwr ac ieithydd gyda'r Methodistiaid Wesleaidd

Enw: Richard Davies Griffith
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1856
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr ac ieithydd gyda'r Methodistiaid Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd yn Abertawe. Yn 19 oed aeth i Goleg Diwinyddol Hoxton, Llundain. Yn 1837 apwyntiwyd ef i'r India, ond wrth fynd yno drylliwyd ei long ar draeth Coromandel, a bu mewn cryn enbydrwydd. Ymroes i astudio iaith a llenyddiaeth y maes hwnnw, ac ar fyr cydnabyddid ef yn ysgolhaig Tamul a Sanskrit, gan roi gwasanaeth mawr i'r Gymdeithas Feiblaidd wrth gyhoeddi'r Ysgrythurau yn Tamul. Ac yntau'n llafurio yng nghyffiniau Madras, gwanychwyd ef gan afiechyd, fel y bu'n rhaid iddo ddychwelyd i Loegr, lle y bu farw mewn byr amser, sef ar 29 Mehefin 1856, yn 43 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.