Ganwyd yn Castell Garw, plwyf Llanglydwen, Sir Gaerfyrddin, 1731. Bu am dymor mewn ysgol a gedwid gan Tasker, Hwlffordd. Yn dilyn, agorodd ysgol yng Nglandwr, Penfro. Wedi rhai blynyddoedd ar ôl ei dderbyn yn aelod yng Nglandwr, dechreuodd bregethu yno. Aeth i academi Caerfyrddin, Hydref 1754. Ar achlysur y rhwyg yn hanes honno, aeth ef a phedwar arall i athrofa'r Fenni yn 1757. Prawf hyn ei fod yn efengylaidd a Chalfinaidd ei olygiadau. Ordeiniwyd ef yng Nglandwr, 30 Mehefin 1759. Gofalai hefyd am yr achosion yn Rhydyceisiaid a Phenygroes.
Daeth ei ysgol baratoi pregethwyr yn un o sefydliadau addysgol amlwg ei gyfnod; yr oedd yn olyniaeth yr hen academïau bychain. Ystyrid ef yn ysgolhaig da ac yn athro dawnus. Aeth tyrfa o weinidogion drwy byrth academi Glandwr i'r weinidogaeth. Cyhoeddodd farwnad, catecism, a rhai pamffledau. Ymddeolodd yn 1803, a bu farw 12 Tachwedd 1811. Ceir erthygl ar ei fab William Griffiths (1777 - 1825) mewn man arall.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.