GRIFFITH, OWEN ('Giraldus '; 1832 - 1896), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, golygydd ac awdur

Enw: Owen Griffith
Ffugenw: Giraldus
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1896
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, golygydd ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Tynybraich, Garn, Dolbenmaen, Sir Gaernarfon. Cafodd ei addysg yn hen ysgol Dolbenmaen o dan Owen Griffith, a daeth yn aelod yng nghapel y Bedyddwyr yn Horeb - gan gael ei fedyddio pan oedd yn 13 oed. Yn gynnar wedi hynny aeth yn brentis saer-coed-llongau ym Mhorthmadog, a bu'n gweithio yn iard y gwneuthurwyr llongau hyd 1862. Penderfynodd fyned i'r weinidogaeth, ac aeth i Goleg y Bedyddwyr, Hwlffordd. Bu'n weinidog yn Risca, sir Fynwy, ac yn Abergele cyn ymfudo i U.D.A. Cyn gadael Cymru yr oedd darnau barddonol o'i waith wedi ymddangos yn Y Greal, a pharhaodd i ysgrifennu i gylchgronau yn America.

Yn 1875 cychwynnodd Y Wawr Americanaidd, misolyn, a bu'n ei olygu hefyd nes y bu ef ei hunan farw yn 1896; at wasanaeth Bedyddwyr yn America y cyhoeddid hwn. Cyhoeddwyd fersiwn yn Saesneg hefyd, yn ddiweddarach, o dan yr enw The Daylight.

Cyhoeddodd dri llyfr: Above and Around, containing Religious Discourses … with Observations on Men and Things in Wales and America … (Utica, 1872, gydag 2il arg. yn 1877), Naw Mis yn Nghymru … (Utica, 1884), a Y Ddwy Ordinhad Gristionogol yn eu Gwraidd a'u Dadblygiad … (Utica, 1891). Bu farw 14 Mai 1896, yn ei 63 flwyddyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.