GRIFFITH, OWEN ('Eryr Eryri '; 1839 - 1903), cerddor

Enw: Owen Griffith
Ffugenw: Eryr Eryri
Dyddiad geni: 1839
Dyddiad marw: 1903
Rhiant: Griffith Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 12 Awst 1839 ym Mhenllyn ger Cwmyglo, Sir Gaernarfon, mab i Griffith Owen, cerddor da ac arweinydd seindorf Llanrug. Ymunodd Owen Griffith â chôr Waenfawr o dan arweiniad Pierce Williams, a chafodd hyfforddiant cerddorol gan yr arweinydd. Yn 1866 rhoddodd yr arweinydd y côr i fyny, a phenodwyd Owen Griffith yn olynydd iddo. Ymunodd y côr â gŵyl gerddorol Dirwestwyr Eryri, a chymerodd ran amlwg tra parhaodd yr ŵyl. Yn 1862 dechreuodd Owen Griffith gystadlu gyda'r côr, a bu'n llwyddiannus i ennill yn y prif eisteddfodau am flynyddoedd, ac yn eisteddfodau cenedlaethol Bangor 1874, Pwllheli, 1875, a Birkenhead. Cyfansoddodd rai caneuon a'r anthem ' Da was, da a ffyddlon.' Bu'n arweinydd cymanfaoedd canu ac yn feirniad mewn eisteddfodau. Bu farw 4 Ionawr 1903, a chladdwyd ef ym mynwent Llanrug.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.