Ail fab a thrydydd (allan o naw) plentyn William Griffiths ac Elizabeth (Davies) o'r Gelli-fendigaid yn Llanwynno; bedyddiwyd ef 13 Ionawr 1756. Y mae ei gysylltiadau teuluol, uniongyrchol a thrwy briodasau, yn ddiddorol dros ben (gweler O. Morgan, yn y nodyn isod); yr oedd rhai o'i deulu'n noddwyr cynnar a selog i Fethodistiaeth yn Llanwynno a Phontypridd, a bu priodas ei chwaer ieuengaf ag EVAN MORGAN o'r Hafod Ucha 'n bwysig iddo. Meddyg yng Nghaerdydd oedd Griffiths; ond gellid meddwl na fennodd cysylltiadau Methodistaidd ei deulu ryw lawer arno, oblegid 'sporting man' a chwaraewr triciau hynod ddireidus oedd ef - aeth mor bell â threfnu angladd ddigrif iddo'i hunan (Morgan, op. cit., 44-5). Bu farw yn 1826 (profwyd ei ewyllys 31 Mai), a chladdwyd yn Llanwynno.
Ei hawl i enwogrwydd yw'r ysbryd anturus a'i gwnaeth ef yn gyntaf un i arloesi maes glo Cwm Rhondda. Yn 1790, agorodd lefel yn y Gyfeillion, a'i chysylltu â'r gamlas yn Nhrefforest â thramffordd a phont dros afon Taf. Cyn 1802 yr oedd hefyd wedi cymryd prydles gan ei frawd-yng-nghyfraith Evan Morgan (uchod) ar yr holl lo dan fferm yr Hafod, ac yn fuan agorodd lefel yno. Dan ei olynwyr, y Thomasiaid, trowyd y lefelau'n byllau glo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.