GRIFFITHS, ROBERT (1805 - 1883), peiriannydd a dyfeisydd

Enw: Robert Griffiths
Dyddiad geni: 1805
Dyddiad marw: 1883
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd a dyfeisydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 13 Rhagfyr 1805 yn fferm Llewenny, dyffryn Clwyd, sir Ddinbych. Yn llanc, prentisiwyd ef i saer. Yn ddiweddarach, cyflogwyd ef mewn gwaith peiriannau yn Birmingham. Yn 1845 aeth i Ffrainc, ac, yn gysylltiedig â M. Labruere, sefydlodd weithfeydd peiriannau yn Havre. Caeodd y rhain i lawr, fodd bynnag, ymhen tua thair blynedd. Ar ei ben ei hun, a hefyd mewn cysylltiad ag eraill, bu'n gyfrifol am lawer o ddyfeisiau peiriannol. Ei gyfraniad mwyaf adnabyddus i beirianyddiaeth oedd gwellâd ar y modd o yrru llongau drwy 'screw propulsion.' Bu farw Mehefin 1883.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.