GRIFFITHS, ROBERT (1824 - 1903), cerddor

Enw: Robert Griffiths
Dyddiad geni: 1824
Dyddiad marw: 1903
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 21 Mai 1824 yng Nghaerfyrddin. Flwyddyn wedi ei eni symudodd ei rieni i fyw i Fryste. Cafodd ychydig gyfleusterau mewn dosbarthiadau i ddysgu cerddoriaeth. Meddai lais da, a gwnaed ef yn arweinydd canu yr ysgol Sul, capel Broadmead, Bristol. Bu'n aelod o'r Bristol Orpheus Society a'r Madrigal Singing Society. Wedi marw ei dad symudodd i fyw i Lundain, a phenodwyd ef yn arweinydd y canu yng nghapel y Bedyddwyr, Islington Green. Yn 1851 clywodd John Curwen yn darlithio ar gyfundrefn y Tonic Solffa yn y Literary Institute, a dechreuodd gymryd diddordeb yn y nodiant newydd. Yn 1853 sefydlwyd Cymdeithas y Tonic Solffa, ac etholwyd ef yn ysgrifennydd; amcan y mudiad oedd gwella canu cynulleidfaol a chanu'r ysgol Sul. Yn 1854 aeth i Fanceinion lle'r oedd y mudiad yn newydd. Cychwynnodd ffurfio dosbarthiadau ynglŷn â'r ysgol Sul, a chymaint fu y llwyddiant fel y rhifai y disgyblion dros 2,000; pan adawodd Fanceinion llafuriai dros 200 o athrawon i ddysgu sol-ffa yn y ddinas. Yn 1865 aeth yn ôl i Lundain yn ysgrifennydd i John Curwen ac i hyrwyddo lledaeniad cyfundrefn y tonic sol-ffa. Sefydlwyd yn 1875 Goleg y Tonic Sol-ffa, apwyntiwyd ef yn ysgrifennydd, a llafuriodd yn ddiorffwys i ledaenu'r nodiant, trwy ddarlithio ar hyd Lloegr a Chymru. Yr oedd yn gerddor ymarferol, cyfansoddodd amryw ddarnau cerddorol, a lluniodd lawer o wersi cerddorol. Ymddeolodd o'i swydd yn 1900, ac aeth i fyw i Ilford. Bu farw yno 1 Ionawr 1903, a chladdwyd ef ym mynwent y dref.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.