GRIFFITH, WALTER (1819 - 1846), dadleuwr dros Fasnach Rydd

Enw: Walter Griffith
Dyddiad geni: 1819
Dyddiad marw: 1846
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dadleuwr dros Fasnach Rydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Cyfraith; Barddoniaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

ei dad oedd David Griffith o'r Blowty yn Llŷn, gweinidog Annibynnol yn Nhalsarn (1814-30) ac wedyn siopwr ym Methesda hyd 1840, pan aeth yn weinidog i Riwabon (Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iii, 228, iv, 30); bu farw yn 1843; ganwyd Walter Griffith yn Awst 1819), a phrentisiwyd ef i siopwr ym Methesda. Symudodd i weithio gyda hetiwr ym Manceinion, ac yno atynwyd ef i'r mudiad i ddiddymu'r Deddfau Ŷd. Penodwyd ef yn siaradwr cyflog yng Ngogledd Cymru dros yr ' Anti-Corn-Law League,' a bu'n cynnal cyfarfodydd yng ngwahanol siroedd Gwynedd; sgrifennai hefyd i'r Dysgedydd ar y pwnc, a chyhoeddodd bamffled, Treth y Bara, yn 1840. Bu farw yn Abergele yn 1846. Dan y ffugenw ' Gwallter Bach,' canodd gryn swm o brydyddiaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.