GRIFFITH, Syr SAMUEL WALKER (1845 - 1920), barnwr yn Awstralia

Enw: Samuel Walker Griffith
Dyddiad geni: 1845
Dyddiad marw: 1920
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barnwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: John Oliver Stephens

Ganwyd 21 Mehefin 1845 ym Merthyr Tydfil, mab Edward Griffith, gweinidog eglwys yr Annibynwyr Saesneg, a Mary, merch Peter Walker, Abertawe. Ymfudodd y teulu i Awstralia lle y daeth y tad yn weinidog eglwys yr Annibynwyr yn Ipswich, gerllaw Brisbane, yn 1854. Wedi gyrfa ddisglair ym Mhrifysgol Sydney derbyniwyd Samuel Griffith yn fargyfreithiwr yn uchel lys Queensland. Yn 1872 aeth i'r Senedd, gan ddyfod yn brif weinidog yn 1883. Dewiswyd ef yn brif farnwr Queensland yn 1893. Bu a fynno ei waith dadleuol â dau gwestiwn pwysig: (a) dymchwel y system bastoralaidd o lywodraeth gan yr ychydig, a (b) yr ymdrech i geisio cadw Australia yn gyfandir y dyn gwyn ac felly gadw allan frodorion o Melanesia a ddygid i mewn mewn dulliau na hoffid mohonynt. Efe a fu'n gyfrifol yn bennaf am gydio New Guinea wrth lywodraeth Australia ac am y Queensland Defence Act a basiwyd yn 1884.

Yn 1887, yn yr Empire conference a gynhaliwyd yn Llundain, mynegodd ei olygiadau ar gwestiwn undod yr Ymerodraeth Brydeinig. Efe, fel cadeirydd y Sydney 'Convention for the Federation of the Australian Colonies,' 1891, a ddrafftiodd gyfansoddiad Awstralia, a hyd y gwnaethpwyd hwnnw yn gyfraith y wlad gan Senedd Prydain yn 1900 cymerth ran flaenllaw yn y gwaith o'i hyrwyddo. Yn 1913, yn Aberystwyth, derbyniodd LL.D. 'er anrhydedd' gan Brifysgol Cymru. Yr oedd yn G.C.M.G. ac yn aelod o'r Cyfrin Gyngor. Bu farw 9 Awst 1920 yn ' Merthyr,' ei gartref yn Brisbane. Y mae llyfrgell Gymraeg Cymmrodorion Brisbane yn gofeb iddo; efe oedd ei noddwr cyntaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.