Ganwyd ym Mhenmorfa, Eifionydd, Chwefror 1704 (gall mai 1703). Yn grydd yn Llundain, ymunodd â'r Methodistiaid, ond erbyn 1742 yr oedd wedi troi at y Morafiaid. Yn 1743, anfonwyd ef ar daith i Gymru - y mae'n debyg mai ef oedd y cenhadwr Morafaidd cyntaf yn Sir Benfro. Wedi dal amryw swyddau yn Eglwys y Brodyr yn Llundain, bu farw pan ar ymweliad â'r Almaen, ar derfyn 1747.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.