GRIFFITH, WILLIAM ('Gwilym Caledffrwd '; 1832 - 1913), chwarelwr a cherddor

Enw: William Griffith
Ffugenw: Gwilym Caledffrwd
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1913
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwarelwr a cherddor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd ym Mhenisa'r Allt, Tregarth, Llandegai, Sir Gaernarfon. Cafodd ei wersi cerddorol cyntaf gan John Morgan, Penygroes, Tregarth, a thrwy astudio llyfrau Mills ac ' Alawydd ' daeth yn gerddor da. Yn 1860 ymfudodd i Unol Daleithiau'r America ac ymsefydlodd yn Middle Granville. Yn 1862 enillodd am gyfansoddi darn i'r ysgol Sabothol. Yn 1866 cyhoeddodd Y Canigydd Cymreig. Yn 1879 dug allan Graded Anthems - y mae dwy anthem ganddo ef yn y casgliad. Yn 1888 cyhoeddodd ei anthem, ' I will extol Thee.' Bu yn beirniadu mewn amryw eisteddfodau, yn arwain côr cymysg am flynyddoedd yn Middle Granville ac yn Poultney, ac yn arweinydd canu yng nghapelau'r Bedyddwyr a'r Wesleaid. Bu farw 4 Rhagfyr 1913, a chladdwyd ef ym mynwent y dref.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.