Ganwyd yng Nghwmllynfell ac addysgwyd yn ysgol y Gwynfryn, Coleg Caerfyrddin (1882-6), a Phrifysgol Yale yn America (1886-91-2), lle y graddiodd yn B.D., Ph.D. Annibynnwr ydoedd ym more'i ddydd, ond wedi dychwelyd i Gymru o America troes yn Undodwr, a bu'n genhadwr yng Ngogledd Cymru (1892-3), gweinidog Pontypridd (1893-1900), ac yn ddiweddarach yn weinidog ar amryw eglwysi Undodaidd yn Lloegr.
Ystyrid ef yn Hebreigiwr da ac astudiodd Lyfr y Salmau yn helaeth. Bu'n olygydd Y Pelydryn, 1896; Stepping Stone, 1896-7; Casgliad o Emynau, 1893; a chyhoeddodd amryw bamffiedau a phregethau yn Gymraeg a Saesneg.
Priododd Florence Davies, Trowbridge, 18 Mai 1897, a bu iddynt nifer o blant. Bu farw yn Clydach-ar-Dawe, 7 Gorffennaf 1940.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.