Ganwyd 11 Gorffennaf 1811 yn Abertawe, mab i John Grove ac Anne (gynt Bevan). Aeth i Goleg Brasenose, Rhydychen, a graddiodd B.A. 1832, M.A. 1835. Cafodd radd D.C.L. yn 1875 a LL.D., Caergrawnt, yn 1879. Ym mis Tachwedd 1831 aeth i Lincoln's Inn a daeth yn fargyfreithiwr yn Nhachwedd 1835. Tueddai yn gryf at wyddoniaeth ac enillodd fri mawr am ei ymchwiliadau gwyddonol. Daeth yn aelod o'r Royal Institution yn 1835 ac yn is-lywydd yn 1844. Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1840. O 1840 hyd 1847 bu'n athro yn y London Institution, ac yn 1847 cafodd fathodyn y Royal Society. Yn 1853 gwnaed ef yn Q.C., ac am rai blynyddoedd bu'n gysylltiedig â chylchdeithiau cyfreithiol De Cymru a Chaer. Bu'n farnwr o 1871 hyd 1887. Gwnaed ef yn farchog yn 1872 ac yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar ei ymddiswyddiad yn 1887. Yn 1837 priododd May Emma Maria, merch John Diston Powles, Summit House, Middlesex; bu hi farw yn 1879. Bu ef farw yn Llundain, 1 Awst 1896.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.