GRUFFYDD, ELIS (fl. 1500-52), ‘milwr o Galais,’ copiydd, cyfieithydd, a chroniclwr

Enw: Elis Gruffydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ‘milwr o Galais,’ copiydd, cyfieithydd, a chroniclwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Milwrol; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Jones

Ganwyd rhwng 1490 a 1500 yn y Gronnant Uchaf, Gwespyr, plwyf Llanasa, Sir y Fflint, lle yr etifeddodd 24 erw o dir oddi wrth ei ewythr Siôn ap Dafydd. Ni wyddys dim am ei fywyd cynnar yng Nghymru, ond yn ei ‘Gronicl’ dywed lawer amdano'i hun fel gwasanaethwr i deulu Wingfield, yn Llundain ac yn Ffrainc. Yr oedd gyda Syr Robert Wingfield ar ‘Faes y Brethyn Euraid’ ger Calais yn 1521, pan gyfarfu'r ymherodr Siarl V a Harri VIII, a hefyd ym myddin dug Suffolk (Syr Charles Brandon) yn ystod y cyrch yn Ffrainc rhwng Gorffennaf a'r Nadolig 1523. O ddechrau 1524 hyd 1529 bu'n geidwad ar blas Syr Robert Wingfield yn Llundain; ac yno y copïodd lawysgrif Caerdydd, Phillipps 10823, casgliad o farddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg.

Ar 27 Ionawr 1529 ymunodd â gwarchodlu Calais ac yno a hwnt ac yma yn Ffrainc gyda'r fyddin Seisnig y treuliodd y gweddill o'i oes. Yno hefyd y cyfieithodd o'r Saesneg gasgliad helaeth o feddyginiaethau (Llsgr. Cwrtmawr 1), gan ei orffen tua 1548, ac y lluniodd ei gronicl o hanes y byd o'r cread hyd at ei ddyddiau ef ei hun (Llsgrau. N.L.W. 5276 a Mostyn 158). Cyfieithiad a chyfaddasiad o groniclau Saesneg a Ffrangeg yw'r rhan fwyaf o'r cynnwys, ond weithiau defnyddir ‘rhai o lyfrau Cymru.’ Y rhan fwyaf gwreiddiol a gwerthfawr yw'r rhan olaf, lle yr ymdrinir â chyfnod Elis ei hun ac â llawer o'i helyntion personol.

Ni wyddys dyddiad ei farw, ond yr oedd yn fyw yn 1552.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/