GRUFFYDD, ROBERT ('Patrobas '; 1832 - 1863), bardd

Enw: Robert Gruffydd
Ffugenw: Patrobas
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1863
Rhiant: Catrin Gruffydd
Rhiant: Robert Gruffydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 7 Tachwedd 1832 yn Penymaes, Nefyn, Sir Gaernarfon, mab Robert a Catrin Gruffydd. Aeth yn fasnachwr, eithr bu farw o'r darfodedigaeth, 21 Ebrill (20 Ebrill yn ôl Not. W.) 1863, yn ddyn cymharol ieuanc, gan adael gweddw a dau o blant. Y flwyddyn cynt cyhoeddwyd Byr Ganeuon gan Patrobas (Pwllheli, 1862, ac arg. arall); ymddangosodd rhai caneuon o'i waith yn Y Dysgedydd a chyfnodolion eraill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.