GWILYM ap SEFNYN (fl. c. 1440), bardd

Enw: Gwilym ap Sefnyn
Rhiant: Sefnyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

nid erys unrhyw fanylion am ei fywyd, ond ymddengys mai gŵr o Ogledd Cymru oedd ef. Cadwyd llawer o'i farddoniaeth yn y llawysgrifau, ac yn ei phlith gywyddau i Gwilym ap Gruffudd o'r Penrhyn a'i fab, William Gruffudd Fychan; un cywydd brud (NLW MS 6499B (370)), a nifer o englynion. Ceir hefyd ddau gywydd mwy personol, sef cywydd i Dduw ar lun cyffes, a chywydd marwnad i'w saith mab a thair merch a fu farw o'r pla.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.