mab ac etifedd Edward Gwyn o Lansannwr, Sir Forgannwg, ac Eleanor, merch ieuaf Syr Francis Popham o Littlecott, swydd Wilts; ganwyd yn Combe Florey, Gwlad yr Haf, yn 1648 neu 1649. Ymaelododd yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, 1 Mehefin 1666, yn 17 mlwydd oed, a daeth yn efrydydd o'r Middle Temple yn 1667. Galwyd ef i'r bar ond yn ddiweddarach gadawodd y gyfraith ac ymroddodd i wleidyddiaeth. Rhwng 1673 a 1727 eisteddodd mewn 15 senedd a chynrychiolodd amryw etholaethau, gan gynnwys Caerdydd, 1685-7. Yr oedd yn Dori a chyfaill mynwesol i Rochester. Daliodd swyddi pwysig a bu yn Ysgrifennydd Rhyfel, 1713-4. Penodwyd ef yn siambrlen Brycheiniog, 15 Hydref 1681. Trwy ei briodas â Margaret, trydedd ferch Edmund Prideaux, cafodd stadau Ford Abbey yn Nyfnaint; bu farw yn Ford Abbey 2 Mehefin 1734.
Dilynwyd ef gan ei fab, FRANCIS GWYN, a fu farw heb blant. Wedi ei farwolaeth ef disgynodd eiddo Llansannwr i ANTHONY GWYN, cefnder iddo. Ar ôl ei farwolaeth yntau, darfu teulu Gwyn, cangen o'r Herbertiaid.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.