GWYNNETH, JOHN (1490? - 1562?), offeiriad Pabyddol a cherddor

Enw: John Gwynneth
Dyddiad geni: 1490?
Dyddiad marw: 1562?
Rhiant: David ap Llewelyn ab Ithel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad Pabyddol a cherddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: John James Jones

Ni wyddys flynyddoedd ei eni a'i farw. Brodor o Sir Gaernarfon oedd, mab i David ap Llewelyn ab Ithel, brawd Robert ap Llewelyn ab Ithel, o Gastellmarch, ac y mae'n debyg iddo gael ei addysg yn rhai o'r sefydliadau mynachaidd yn agos i'w gartref, ac oddi yno, trwy help noddwr cyfoethog, llwyddodd i fyned i Rydychen. Cafodd ei ordeinio a bu'n weinidog yn Cheapside, Llundain, ac yn Luton. Ar yr un pryd daliai, 'sine cura,' reithoraeth Clynnog Fawr, Sir Gaernarfon, i'r hon y cyflwynwyd ef gan Harri VIII. Er iddo gael cryn drafferth cyn ei sefydlu, a'i orfodi i gyngaws ynghylch degymau ac elwau eraill y plwyf, ddwywaith yn y canghellys ac unwaith yn llys y Seren, ymddengys iddo ddal y swydd hon hyd ei farw.

Haedda Gwynneth ei gofio yn fwyaf arbennig am ei gyfraniad i gerddoriaeth yr eglwys. Yn 1531 'apeliodd' yn llwyddiannus am y radd o Mus. Doc., Rhydychen, ac i ategu ei apel cyflwynodd nifer o gyfansoddiadau cerddorol ar gyfer gwasanaethau'r eglwys. Cynhwyswyd un o'i gyfansoddiadau, sef ' My love mourneth,' yn y casgliad o rangannau a gyhoeddodd Wynkyn de Worde yn 1533. Nid oes amheuaeth iddo wneuthur cyfraniad pwysig tuag at wella cerddoriaeth yr eglwys, a chyfrifir ef yn un o gerddorion mwyaf blaenllaw oes y Tuduriaid.

Yr oedd Gwynneth yn weithgar iawn hefyd fel dadleuydd ar ran y Pabyddion. Ysgrifennodd rai llyfrau mewn ateb i lyfrau John Frith, y Protestant enwog a chyfaill Tyndale, yr hwn a ferthyrwyd yn 1533. Dengys ei weithiau cyhoeddedig fod Gwynneth yn meddu ar ddysg eang a'i fod yn ddadleuydd medrus.

Bu fyw ymlaen i deyrnasiad y frenhines Elisabeth, ac y mae'n bosibl iddo gael ei garcharu am wrthod cydffurfio yn ôl Deddf Unffurfiaeth 1559. Y mae'n debyg iddo farw tua'r flwyddyn 1562.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.