GWYNNE-VAUGHAN, DAVID THOMAS (1871 - 1915), llysieuydd

Enw: David Thomas Gwynne-vaughan
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1915
Rhiant: H.T. Gwynne-Vaughan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llysieuydd
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 12 Mawrth 1871 ym Mhlas Errwd, Brycheiniog, yn fab hynaf i H. T. Gwynne-Vaughan o Errwd (gynt o'r Cynghordy gerllaw Llanymddyfri; aelod o wehelyth mawr Gwynniaid Glanbrân); dywedir gan rai mai yn Llanymddyfri, ac ar 3 Mawrth, y ganwyd y llysieuydd. O ysgol Trefynwy aeth yn 1890 i Goleg Crist yng Nghaergrawnt, a graddiodd yn y dosbarth blaenaf mewn gwyddoniaeth yn (1893). Ar ôl dechrau gwaith ymchwil yng Ngerddi Kew, aeth allan (1895) i ddyffryn Amazon mewn cysylltiad â'r fasnach rwber; yna (1896) penodwyd ef yn ddarlithydd mewn llysieueg ym Mhrifysgol Glasgow. Yn 1897 aeth ar ymchwil lysieuol i odreon Siam a Malaya; dychwelodd oddi yno yn 1899 ac ailgydiodd yn ei waith academaidd - arbenigwr ar redyn oedd ef. Bu yn ei swydd yn Glasgow o 1896 hyd 1907; yn 1907 aeth yn bennaeth yr adran lysieueg yng Ngholeg Birkbeck yn Llundain. Symudodd oddi yno yn 1911 i Belfast, yn athro llysieueg. Yn 1915 etholwyd ef yn athro yn Reading, ond bu farw yno ar 4 Medi yn yr un flwyddyn. Cyhoeddodd res hir o bapurau'n delio â rhedyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.