Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ganwyd 29 Medi 1778, mab hynaf Dr. Benjamin Hall, canghellor Llandaf. Cafodd ei addysg yn Christ Church, Rhydychen (B.A. 1798; M.A. 1801) a daeth yn fargyfreithiwr (Lincoln's Inn) yn 1801. Priododd, 16 Rhagfyr 1801, Charlotte, merch iau Richard Crawshay, Cyfarthfa, a'i gwnaeth yn bartner pan brynodd waith haearn Rhymni (1803); cyflwynodd iddo stad Abercarn yn 1808; cafodd Hall ei wneud yn ysgutor ewyllys ei dad-yng-nghyfraith, a'r un a oedd i gael gweddill ei stad wedi rhannu'r cymynroddion eraill. Hall oedd perchen castell Hensol, Sir Forgannwg. Bu'n aelod seneddol dros Totnes, 1806-12, Westbury 1812-4; fe'i dewiswyd dros sir Forgannwg ar 28 Tachwedd 1814 a bu'n aelod hyd ei farw cynnar ar 31 Gorffennaf 1817. Y mae'n bwysig yn hanes Cymru am mai efe ydoedd y diwydiannwr mawr cyntaf i fynd i'r maes gwleidyddol yng Nghymru yn erbyn dylanwad y gwŷr bonheddig tiriog.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.