HALL, RICHARD (1817 - 1866), bardd
Enw: Richard Hall
Dyddiad geni: 1817
Dyddiad marw: 1866
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Gwyn Jones
Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes (os nad y cwbl ohoni) yn Aberhonddu, lle yr oedd yn cadw busnes fferyllydd. Yn 1850 cyhoeddodd A Tale of the Past and Other Poems, gyda chyflwyniad i Eliza Cook. Yr oedd ef, fel y dywed ei hunan, yn fodlon i aros ar lechweddau isaf Parnasws, y mynydd y credai ef i Miss Cook lwyddo i'w ddringo i'w big. Bu farw 25 Ionawr 1866 a chladdwyd ef ym mynwent Llanspyddyd.
Awdur
- Yr Athro Gwyn Jones, (1907 - 1999)
Ffynonellau
- Theophilus Jones, History of the County of Brecknock (arg. Glanusk), 1930, iv, 159
- Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the present (1908)
- J. Rogers Rees yn The Red Dragon, iv, 223-30
- Catalogue of Printed Literature in the Welsh Department, Cardiff Free Libraries (1898)
- T. Morgan, Enwogion Cymreig 1700-1900 (1907)
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q20734278
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/