Ganwyd, yn ôl carreg fedd y teulu, yng Nghaerfyrddin ar y 15 Gorffennaf 1811, mab Griffith a Mary Harris. Cadwai siop ddillad yn y dref. Yr oedd yn gerddor da, ac yn arweinydd y canu yng nghapel (Methodistiaid Calfinaidd) Heol Dŵr. Bu yn arweinydd côr y dref hefyd. Cyhoeddodd yn 1849 gasgliad o donau dan yr enw Haleliwia yn cynnwys 260 o donau, ac, yn 1855, Haleliwia Drachefn; y mae'r ddau gasgliad yn bwysig am y ceir ynddynt yr alawon cysegredig cynnar a genid yn niwygiadau crefyddol y 18fed ganrif. Bu farw 1 Tachwedd 1892 a chladdwyd ef ym mynwent capel Heol-y-dŵr, Caerfyrddin.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/