HARRIES, ISAAC HARDING, gweinidog a golygydd cyfnodolion

Enw: Isaac Harding Harries
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a golygydd cyfnodolion
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Thomas Richards

Lle a dyddiad ei eni'n ansicr; codwyd ef i bregethu yn y Cendl, sir Fynwy; bu yn athrofa Neuaddlwyd; gweinidog ar Annibynwyr Tal-y-sarn, Arfon, 1831-5. Yn y cyfnod hwn traddododd anerchiadau huawdl dros Gymdeithas y Beiblau, a chyhoeddodd un ohonynt, gyda Sylwedd Pregeth o'i blaen, yng Nghaernarfon (72 td., arg. Peter Evans).

Yn nechrau 1836 daeth yn weinidog eglwys Mynydd Bach ger Abertawe, a chyn diwedd y flwyddyn yr oedd wedi cyfansoddi Holiedydd Efengylaidd at wasanaeth eglwysi Annibynol y cylch (arg. yn Llanelli, 1837). Ond o ddrwg i waeth yr aeth ei fuchedd a'i weithredoedd; yn Hydref 1839 bu iddo ef a phlaid gref fyned allan o'r eglwys, a chodi capel newydd yn Abertawe o'r enw Caersalem Newydd. Dal i fyned i lawr yr oedd safonau Harries, a gorfu i'r blaid newydd ei droi ymaith yn gynnar yn 1841 (diwedd eglwys Caersalem Newydd oedd troi at y Bedyddwyr, oherwydd darfod pob gobaith ei derbyn gan gyfundeb Annibynnol y sir). Yn 1842 clywir am Harries ym Mangor fel gweinidog ar nifer o Wesleaid Annibynol, neu ‘Wesle Bach,’ yn Bethel, Union Street, ac yn cadw ysgol yn y capel. Yn Ionawr 1843, dechreuodd gyhoeddi cyfnodolyn misol yn dwyn yr enw Twr Gwalia, llawn o ymosod ffyrnig ar y Wesleaid uniongred, ac yn Hydref yr un flwyddyn daeth allan (a Harries yn olygydd iddo) rifyn cyntaf Figaro the Second, a alwyd felly i'w wahaniaethu oddi with y Figaro in Wales a gyhoeddid yn yr un ddinas, 1835-6. Yr oedd rhyw fath o athrylith ddiamheuol y tu ôl i'r Figaro hwn, ond arferai'r golygydd y fath ensyniadau difrïol fel nad yw'n syn i'r papur farw rhwng Mawrth a Gorffennaf 1844, ynghanol sŵn curo cyhoeddus ar yr heol a thalu symiau o iawn yn y llysoedd. Dywaid Hanes Egl. Ann. eiriau cryfion iawn am Harries ac yn wyneb ei ymddygiadau diras ac annosbarthus, anodd peidio â chredu eu bod yn wir. Ar ôl marw'r Figaro, cyhoeddi'r Drych Calfinaidd, yn 1844, colli ei afael ar gapel Union Street, a methu yn ei ymgais i olygu papur Eglwysig Cymraeg, ciliodd i Lundain, lle y bu farw o gwmpas 1868.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/