HARRIS, JOHN (1680 - 1738), esgob Llandaf

Enw: John Harris
Dyddiad geni: 1680
Dyddiad marw: 1738
Rhiant: George Harris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llandaf
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Lawrence Thomas

mab George Harris, Milford, Sir Benfro. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1697 (B.A., 1701; M.A., 1714). Bu am gyfnod yn rheithor Rudbaxton, Sir Benfro, ac o 1708 hyd 1729 yn rheithor Llanbedr Efelffre. Yn 1728 daeth yn gymrawd o Goleg Oriel, Rhydychen; yr un flwyddyn cafodd radd D.D. gan Brifysgol Caergrawnt a'i wneuthur yn ganon yn eglwys gadeiriol Caergaint. Yn 1729 gwnaethpwyd ef yn ficer Ticehurst, Sussex, yn ddeon eglwys gadeiriol Henffordd, ac ar 19 Hydref fe'i cysegrwyd yn esgob Llandaf gan archesgob Caergaint yng nghapel Plas Lambeth. Yn 1736 rhoes i fyny fod yn ddeon Henffordd a dyfod yn ddeon Wells.

Fel y gwelir oddi wrth y llu a ordeiniodd yr oedd Harris yn esgob gweithgar. Eithr fe'i coffeir oblegid iddo adfer adeilad yr eglwys gadeiriol. Cymerodd arno swydd pennaeth y cabidwl a rhoes ei holl egni i'r gwaith o gasglu arian. Trefnodd i'r pensaer enwog, John Wood, o Bath, adeiladu y ' Deml Eidalaidd ' y tu mewn i furiau'r eglwys gadeiriol; edmygid hon yn fawr yn ei ddydd ef eithr condemniwyd hi'n llwyr yn y ganrif ddilynol.

Bu'r esgob farw ar 28 Awst 1738 a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Wells. Gosododd ei fab dabled yn ei goffáu ar fur deheuol y clas.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.