Ganwyd ym Mhontywaun, sir Fynwy. Dygwyd ef i fyny ymhlith y Methodistiaid Primitif; dechreuodd weithio ar y glo yn fachgen ieuanc; bu'n glerc yn swyddfa un o gwmnïau dociau Caerdydd; ond yn ei ôl y daeth i'r glo, gan weithio yn Risca y tro hwn. Gwelodd ei gydweithwyr ddefnydd arweinydd ynddo'n fore; ei ddewis yn bwyswr i ddechrau, ac yn 1905 yn brif swyddog y gweithwyr glo yn rhanbarth Maesteg, swydd yn galw am ddeheurwydd a phlwc i drafod cwynion y talcen glo gyda'r meistri a'u swyddogion hwythau; erbyn 1911 yr oedd yn aelod o brif bwyllgorau Undeb Glowyr Prydain Fawr. Yr oedd yn un o arweinyddion mwyaf amlwg streic 1912 am is-rif cyflog, ac eto yn streic 1920; ond ymddieithrodd gymaint oddi wrth y bobl eithafol a lywiai fuddiannau'r glowyr ar y pryd, fel yr ymddiswyddodd dros dro o'r safleoedd pwysig a ddaliai yn yr Undeb. Ailetholwyd ef yn fuan, ac o 1922 i 1924 ef oedd llywydd Cynghrair y Mwynwyr yn Neheudir Cymru. Yr oedd yn aelod o'r Blaid Lafur yn gynnar ar ei oes; aflwyddiannus fu ei ymgais i fyned i'r Senedd yn 1910, ddwywaith; ond yn 1918 etholwyd ef yn ddiwrthwynebiad dros ranbarth newydd Ogwr, a daliodd y sedd yn ddiogel hyd ei farw; un rheswm am yr unfrydedd oedd ei weitharwch yn ystod rhyfel 1914-18 fel aelod o bwyllgorau pwysig yn ymwneud â chodi glo a chadw'r gweithwyr yn ddiddig yng nghymoedd y Dê. Yn 1924 penodwyd ef yn Bostfeistr Cyffredinol yng ngweinyddiaeth gyntaf Ramsay Macdonald ac yn aelod hefyd o'r Privy Council; ni ellir dod yn hyddysg ym mewnolion y swydd honno ar chwarae bach, a chafodd Hartshorn rai oriau anniddig gan yr Wrthblaid, ei atebion ar brydiau'n amharod ac anghyflawn. Yn 1927 dewiswyd ef yn aelod o'r comisiwn a anfonwyd i'r India (â Syr John Simon yn gadeirydd iddo) i geisio datrys problemau aruthr y wlad fawr honno, ac ef oedd awdur y rhannau hynny o'r adroddiad a ddeliai â'r Senedd fwriadedig a'r modd yr etholid pobl i eistedd ynddi. Ar ôl etholiad 1929 swydd Hartshorn oedd Arglwydd Geidwad y Sêl Gyfrin, gyda gofal arbennig am broblem diweithdra, ac er bod ganddo syniadau cryfion ar y mater a gyflewyd i'r Prif Weinidog o fewn deufis i'w benodiad daeth y diwedd (heb sôn am gyfwng diffaith haf 1931) i roddi pen ar bob cynigion o'r fath. Bu farw ar 13 Mawrth y flwyddyn honno.
Nid oedd dim o'r ymfflamychwr yn Hartshorn; nid oedd yn ŵr ymadroddus; araf ac ymarhous ei siarad, hyd yn oed afrwydd; ond pan boethai iddi, deuai'r geiriau at ei alwad, a diweddai gyda rhyw fath o huodledd; nid huodledd yn llawn o ansoddeiriau blodeuog ond 'climax' rhesymeg glos, dygyfor dweud ar ben rhesi o ffeithiau. Cuddiad ei gryfder oedd plaendra onest, stôr o synnwyr cyffredin, gwybodaeth dryiwyr o fywyd y glowr, a meistrolaeth drwyadl ar y cefndir bydded ef fanylion manaf y 'sliding scale,' neu dystiolaeth y Llyfrau Gleision, neu adroddiadau'r gwahanol gomisiynau - yr oedd adroddiadau Sankey a Samuel ganddo ar dafod-leferydd, a medrai ddyfynnu ohonynt gydag arddeliad mewn sgwrs neu ar lwyfan. Gŵr gwastad ei ffordd, hawdd ymwneud ag ef, cymydog parod ei gymwynas. O dan yr arafwch a'r gwastadrwydd, yr oedd nerthoedd mawrion ynddo; nid oedd arweinydd Llafur mwy diogel nag ef yn ei gyfnod, na galluocach.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.