HEATH, CHARLES (1761 - 1830), argraffydd

Enw: Charles Heath
Dyddiad geni: 1761
Dyddiad marw: 1830
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Williams

Brodor o Hurcott, ger Kidderminster. Yn ôl ei dystoliaeth ef ei hun, fe'i ganwyd yn 1761, a chafodd ei addysg yn ysgol Hartlebury, Worcestershire.

Yn 1791, wedi bwrw'i brentisiaeth fel argraffydd yn Nottingham, sefydlodd ei wasg ei hunan yn Nhrefynwy ac yno argraffodd lawer iawn o fân bethau. Eithr haedda'i gofio yn arbennig am iddo gasglu toreth o ddeunydd hanes sir Fynwy. Er na ddengys ei weithiau ddawn feirniadol neu lenyddol, y mae ei lyfrau'n cynnwys ffynonellau amhrisiadwy o wybodaeth a ddefnyddiwyd gan haneswyr a ddaeth ar ei ôl - David Williams, yr archddiacon William Coxe, a Syr Joseph A. Bradney. Y llyfr cyntaf a gyhoeddodd oedd A descriptive account of Raglan Castle, 1792. Ymhlith eraill, y mae rhai a gyrhaeddodd hyd at chwech argraffiad a mwy, rhai fel Descriptive account of Tintern Abbey, 1793, Account of the scenery of the Wye, 1795, The Excursion down the Wye, 1796, Accounts… of Monmouth, 1804, ac ailargraffiad o bamffled 1607, Lamentable Newes out of Monmouthshire in Wales - the great overflowing of waters in the said countye, 1829. Bu'n faer Trefynwy ddwywaith (1819 a 1821).

Bu farw 31 Rhagfyr 1830 a'i gladdu yn eglwys S. Mair, Trefynwy. Bum mlynedd ar hugain ar ôl ei farw y codwyd y gofgolofn ym mynwent yr eglwys ac y mae dyddiad ei farw sydd arni, 7 Ionawr 1831, yn anghywir.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.