HEMANS, FELICIA DOROTHEA (1793 - 1835), bardd

Enw: Felicia Dorothea Hemans
Dyddiad geni: 1793
Dyddiad marw: 1835
Priod: Alfred Hemans
Rhiant: George Browne
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Gwyn Jones

Ganwyd 25 Medi 1793 yn Lerpwl, merch George Browne, marsiandwr. Pan oedd yn saith oed symudodd ei theulu i Gwrych, gerllaw Abergele, sir Ddinbych. Bratiog fu ei haddysg, eithr darllennai gydag awch, ac mor eithriadol oedd ei chynnydd a'i datblygiad fel y cyhoeddwyd ei Juvenile Poems, 1808, pan nad oedd hi ond newydd gyrraedd ei 14 oed. Ni chafodd y caniadau hyn dderbyniad da eithr o hynny ymlaen ysgrifennodd a chyhoeddodd bron yn ddibaid. Priododd Capten Alfred Hemans yn 1812, ac erbyn 1818, y flwyddyn yr ymwahanasant, dygasai iddo bum mab. Oddigerth am un ysbaid byr bu'n byw yn Bronwylfa, gerllaw Llanelwy, o 1809 hyd 1825, yn nhŷ ei mam. I'r cyfnod hwn y perthyn The Domestic Affections and other Poems, 1812; cyfieithiadau o waith y bardd Portugeaidd Camoens ac eraill, 1818; The Sceptic, 1820; The Siege of Valencia, 1823; The Forest Sanctuary a Lays of Many Lands, 1825. Chwaraewyd ei drama, The Vespers of Palermo, yn Covent Garden, Llundain, ym mis Rhagfyr 1823, a chyda mwy o lwyddiant yn Edinburgh y flwyddyn ddilynol. Yn 1825 croesodd dros afon Clwyd i Rhyllon ac yno yr ysgrifennodd Dramatic Scene between Bronwylfa and Rhyllon. Wedi i'w mam farw, ddwy flynedd yn ddiweddarach, aeth i Wavertree, gerllaw Lerpwl, i fyw. Yn 1831 aeth i Ddulyn i fyw; o hynny ymlaen ar destynau crefyddol, gan mwyaf, y canodd. Erbyn hyn torrodd ei hiechyd, na fuasai erioed yn dda, yn llwyr, a bu farw, yn Nulyn, ar 16 Mai 1835. Yr oedd o natur gariadus a thyner, ac yr oedd ei barddoniaeth yn dyner, yn llifo yn deleidiol ac yn rhwydd, ond nid oedd ynddi na chryfder na gwerth parhaol. Golygwyd ei gwaith casgledig gan Mrs. Hughes yn 1839 a gan W. M. Rossetti yn 1873.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.