HENRY, JOHN (1859 - 1914), cerddor

Enw: John Henry
Dyddiad geni: 1859
Dyddiad marw: 1914
Rhiant: Bennett Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd ym Mhorthmadog, mab i Bennett Williams. Cafodd ei fagu mewn teulu cerddorol, a datblygodd yntau y dalent yn ieuanc. Ymunodd â seindorf Gwirfoddolwyr Caernarfon, ac, yn 13 oed, penodwyd ef yn arweinydd iddi. Meddai ar lais bariton da; dechreuodd gystadlu yn 17 oed, ac enillodd y wobr ym mhob cystadleuaeth ond dwy. Enillodd y wobr ar yr unawd bariton yn eisteddfod Pwllheli, 1875. Yn 21 oed aeth i'r Athrofa Gerddorol Frenhinol, ac wedi gorffen ei gwrs ymsefydlodd yn athro canu yn Llundain, ond oherwydd ei iechyd bu raid iddo ymadael â'r ddinas. Yn 1884 ymsefydlodd yn Lerpwl yn athro cerddoriaeth. Cymerodd ran mewn perfformiadau o'r ' Meseia,' ' Elijah,' ' Samson,' ac eraill o'r cyfanweithiau. Cyfansoddodd lawer o ganeuon a fu'n boblogaidd, megis ' Teyrn y Dydd,' ' Galwad y Tywysog,' ' Cân y Bugail,' ' Cenwch im' yr hen Ganiadau '; erys ' Gwlad y Delyn ' yn un o'r caneuon mwyaf poblogaidd. Cyfansoddodd y rhanganau ' Nos Ystorm ' a ' Selene,' y gantawd ' Olga,' a'r opera ' Caradog.' Bu farw 14 Ionawr 1914, a chladdwyd ef yn Lerpwl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.