HENRY, THOMAS (1734 - 1816), fferyllydd

Enw: Thomas Henry
Dyddiad geni: 1734
Dyddiad marw: 1816
Plentyn: William Henry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: fferyllydd
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Wrecsam, 26 Hydref 1734, yn fab i ysgolfeistr yno a hanoedd o Antrim. Bu'n brentis i apothecari yn Wrecsam ac yn gynorthwywr i apothecari yn Rhydychen; yna, bu'n feddyg ac apothecari ar ei gyfrifoldeb ef ei hunan ym Manceinion. Cyhoeddodd amryw bapurau ar destunau fferyllol a meddygol. Yn 1775, etholwyd ef yn F.R.S. Bu farw 18 Mehefin 1816.

Mab iddo ef oedd y fferyllydd enwog WILLIAM HENRY, M.D., F.R.S. (12 Ionawr 1774 - 2 Medi 1836), a ddarganfu'r egwyddor a elwir ar ei ôl yn 'Henry's Law,' ac a sgrifennodd lyfr pwysig ar fferylliaeth.

Mab i hwnnw, drachefn, oedd WILLIAM CHARLES HENRY, M.D., F.R.S. (31 Mawrth 1804 - 7 Ionawr 1892), yntau'n fferyllydd o fri ac yn gyfaill i John Dalton. Ym Manceinion y ganwyd y mab a'r wyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.